1. Iwan Jones
2. Tom Hughes
3. Tom Pritchard
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Rhys Davies
7. Caio Iwan
8. Dylan Roberts
9. Tom Davies
10. Huw Owen
11. Ryan David
12. Rhodri W WIlliams
14. Jonathan Jones
16. Aled Hughes
Fe lwyddodd Clwb i hawlio tri phwynt pwysig iawn, ar ôl bod ar ei hol hi, yn eu hymgais i ennill dyrchafiad mewn gem anodd iawn ym Mhorthcawl. Ond fu bron iddynt gael dechrau delfrydol pan gafodd Ryan David gyfle yn y munud cyntaf ond aeth ei ymdrech heibio’r postyn. Aeth Porthcawl ar y blaen yn annisgwyl ond yn haeddiannol ar ôl 10 munud pan aeth gic cornel o’r chwith yn syth i mewn i’r gol. Dylai Iwan Jones wedi ei harbed ond ni welodd y bel tan oedd hi’n rhy hwyr i wneud dim. Cafodd Cymric gyfle da i unioni’r sgôr ar ôl 12 munud pan ddaru Dylan Roberts ddod o hyd i Tom Davies yn y cwrt cosbi ond cafodd ei ergyd ei harbed yn wych. Ddaru Porthcawl ddominyddu’r chwarae wedyn heb greu cyfle o nod tan y 43fed munud pan ddaru Iwan Jones arbed yn dda i’w cadw allan.
Gwelwyd Cymric yn cryfhau trwy gydol yr ail hanner ond roedd Porthcawl yn beryg iawn ar y brêc. Cafodd gic rydd wych Dylan Roberts ei harbed yn dda gan golwr Porthcawl ar ôl 54 munud ond nid oedd yn gallu gwneud dim ar ôl 61 munud. Gwelwyd cyd-chwarae da lawr y dde yn rhyddhau Tom Davies a phan gyrhaeddodd y llinell gol fe dynnodd y bel nol i Dylan a tharodd taran o ergyd i’r rhwyd o 12 llath. Codwyd hyder Cymric ac aethant i edrych am yr ail gol allweddol. Fodd bynnag, fu bron i Borthcawl fynd ar y blaen ar ôl 65 munud ar ôl chwarae da lawr y dde, ddaru achosi dryswch yn amddiffyn Cymric. Ond, fe daflodd Cymric eu cyrff at y bel i’w hatal a gwelwyd Alex Davies yn clirio’r bel oddi ar y llinell. Fu bron i Aled Hughes sgorio ar ôl 73 munud pan dderbyniodd y bel ar y dde gan Jonathan Jones. Rhedodd i mewn oddi ar yr asgell a chodi’r bel dros y golwr ond iddi fynd fodfeddi dros y bar. Aeth y ddau dîm yn agos gyda Chymric yn taro’r postyn a Porthcawl yn gweld ymdrech yn fflachio heibio gol Cymric. Ond fe dalodd dyfalbarhad Cymric gyda 2 funud yn unig yn weddill pan gymerodd Dylan Roberts gic rydd sydyn, ar ôl gweld rhediad gwych gan Ryan David ar draws y cae, a thaflodd y bel yn uchel dros amddiffyn Porthcawl a pheniodd Ryan y bel dros y golwr i gefn y rhwyd. Sicrhawyd y pwyntiau ar ôl 92 munud pan darodd Aled Hughes bel hir dros amddiffyn Porthcawl. Daeth y golwr allan o’i gwrt a methu ei gic yn llwyr a phasiodd Rhodri Williams y bel i gefn y rhwyd wag.
Sgôr terfynol – Porthcawl Town 1 Clwb Cymric 3
Chwaraewr y Gêm – Dylan Roberts
Clwb Cymric came from behind to take three vital points in their quest for promotion in a tough match at Porthcawl Town. However they nearly had a great start when Ryan David had a chance in the first minute but his effort went wide. Porthcawl took an unexpected but deserved lead on 10 minutes when a corner from the left went straight in. It should have been saved but it took Iwan Jones by surprise. Cymric then had a great chance to equalise after 12 minutes when Tom Davies found himself in on goal after a great ball from Dylan Roberts but his effort was superbly saved. Porthcawl then dominated the possession but couldn’t create any real chances until the 43rd minute when Iwan Jones pulled off a good save to keep them out.
The second half saw Cymric grow stronger as the half went on but Porthcawl still troubled Cymric on the break. Dylan Roberts saw a fantastic free kick very well saved on 54 minutes but he made no mistake on 61 minutes. Some good play released Tom Davies on the right and when he got to the by-line he pulled it back for Roberts to blast home the equaliser from 12 yards. Cymric were now on the front foot and went looking for that important second goal. However, it was Porthcawl who nearly regained the lead on 65 minutes when some great play down the right led to some confusion in the Cymric box. However, Cymric threw their bodies in the way of Porthcawl’s efforts and Alex Davies cleared another effort off the line. Cymric’s Aled Hughes nearly scored on 73 minutes when Jonathan Jones found him on the right. He cut inside and chipped the ball over the keeper but it went inches over the bar. Both teams went close with Cymric hitting the post and Porthcawl seeing an effort flash past the Cymric goal. But Cymric’s perseverance paid off with 2 minutes remaining when Dylan Roberts took a quick free kick, seeing Ryan David’s great diagonal run, and he floated the ball over the Porthcawl defence which was met by David on the edge of the box and his header went over the keeper into the back of the net. Cymric made the points safe on 92 minutes when Aled Hughes’ long ball saw the Porthcawl keeper miss the ball with his attempt to clear and Rhodri Williams picked it up and passed it into the empty net.
Final score – Porthcawl Town 1 Clwb Cymric 3
MOTM – Dylan Roberts