Back to All Events

Cadoxton Barry 1-1 Clwb Cymric

1. Rhys Davies

2. Tom Hughes

3. Tom Pritchard

4. Rhodri G Williams

5. Dylan Roberts 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Rhodri Dafydd

9. Tom Davies

10. Huw Owen 

11. Osian Pritchard 

12. Rhodri W WIlliams

14 Tom Lewis

15. Jonathan Jones

16. Caio Iwan 


Cafwyd canlyniad rhwystredig unwaith eto pan gafwyd gem gyfartal yn Cadoxton Barry mewn gem gyffrous a gallai wedi mynd unrhyw ffordd. Dechreuodd Cadoxton Barry yn dda ac aethant ar y blaen o fewn y pum munud cyntaf. Cafwyd cyd-chwarae da wrth iddynt symud y bel yn sydyn o’r dde i ganol cae ac yna i’r asgellwr chwith oedd yn rhydd tu fewn i gwrt cosbi Cymric. Taniodd ergyd gryf i gornel ucha’r gol gan roi dim gobaith i Rhys Davies. Ddaru Cymric wella fel oedd yr hanner yn mynd yn ei blaen a bu iddynt ddominyddu meddiant a thiriogaeth ond roedd cyfleoedd i sgorio’n brin. Fu bron i Rhodri G Williams unioni’r sgôr pan darodd ei beniad o gic cornel y bar. Ond roedd Cadoxton Barry yn edrych yn beryg wrth dorri a fu bron iddynt fynd ymhellach ar y blaen gyda foli wych o du allan i’r cwrt cosbi ond gafodd Rhys Davies ei law i’r bel a’i throi heibio. Fe dalodd holl bwysau Cymric wrth iddynt unioni’r sgôr gyda dau funud o’r hanner yn weddill. Methodd Cadoxton Barry glirio cic gornel a disgynnodd y bel i draed Aled Hughes a sgoriodd yn hawdd o 3 llath. 

Roedd yr ail hanner yn un sgrapi iawn gyda’r naill dim neu’r llall yn methu creu cyfle o nod. Fe gryfhaodd Cadoxton Barry fel roedd yr hanner yn mynd yn ei blaen ac roeddynt yn edrych fel y tîm oedd am fynd ymlaen i gipio’r pwyntiau ond fe safodd amddiffyn Cymric yn gadarn. Cafodd Cymric ryddhad mawr reit ar ddiwedd y gêm pan fu bron i Cadoxton Barry gipio’r tri phwynt. Gwelwyd cyd-chwarae da ganddynt a pan dderbyniodd eu hasgellwr ifanc y bel ar y dde fe darodd hanner foli ddaru lwpio dros ben Rhys Davies a tharo’r bar a gorffen yn saff. 

Sgôr terfynol – Cadoxton Barry 1 Clwb Cymric 1 

Chwaraewr y Gêm – Tom Pritchard


Clwb Cymric were frustrated once again when they were held to a 1-1 draw away at Cadoxton Barry in a game that could have gone either way. Cadoxton Barry started the brighter and went ahead in the first five minutes. They moved the ball around well, moving it swiftly from the right, into midfield, and to the left winger who was free just inside the box. He struck a firm drive into the top corner giving Rhys Davies no chance in the Cymric goal to make it 1-0. Cymric improved as the half went on, and they dominated both possession and territory but chances were few and far between. Rhodri G Williams went close when his header from a corner struck the bar. Cadoxton Barry however looked dangerous on the break and they nearly extended their lead with an excellent volley from outside the box but Rhys Davies got his hand to it to push it wide. Cymric’s pressure paid off with 2 minutes remaining in the half. Cadoxton Barry failed to clear a corner and the ball fell at the feet of Aled Hughes who tapped in from 3 yards. 

The second half proved to be a scrappy affair with neither team creating any clear cut chances. Cadoxton Barry grew stronger as the half progressed and looked the more likely to grab a winner but the Cymric defence stood firm. Cymric breathed a sigh a relief right at the end of the match when Cadoxton Barry nearly took all three points. They passed the ball well and it was eventually passed to their young right winger who struck a looping half volley which struck the Cymric cross bar and went safe. 

Final score – Cadoxton Barry 1 Clwb Cymric 1 

MOTM – Tom Pritchard

Earlier Event: 11 April
Whitchurch 1-1 Clwb Cymric
Later Event: 25 April
Porthcawl Town 1-3 Clwb Cymric