Back to All Events

Dynamo Aber 1-2 Clwb Cymric

1. Rhys Davies

2. Celt Iwan

3. Llyr Davies 

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Rhodri Dafydd

9. Tom Davies

10. Huw Owen 

11. Osian Pritchard 

12. Rhodri W Williams

14. Tom Lewis

15. Jonny Jones 


Cafwyd dechrau hyderus gan y ddau dîm ond ni chafwyd unrhyw gyfle o fewn y deg munud cyntaf. Cymric gafodd y cyfle cyntaf ar ôl 10 munud pan ddaru Tom Davies gael rhyddid allan ar y dde a ddaeth ei groesiad o hyd i Huw Owen ond cafodd ei ymdrech ei harbed. Cafodd Dynamo Aber eu cyfle cyntaf munud yn ddiweddarach ar ôl iddynt dorri lawr y chwith ond aeth yr ergyd heibio’r postyn. Aeth Dynamo Aber ar y blaen ar ôl 20 munud yn erbyn llif y chwarae pan, fel yn y gêm flaenorol 5 wythnos yn ôl, fe darwyd pêl hir dros ben amddiffyn Cymric. Rhedodd y blaenwr at Llyr Davies, cefnwr chwith Cymric, ac ergydiodd o 18 llath, ond nid oedd pŵer yn yr ergyd, ond disgynnodd y bêl i’w gyd-chwaraewr ac fe sgoriodd o 5 llath. Nid oedd Cymric ar ei hol hi yn hir gan iddynt unioni’r sgôr 3 munud yn ddiweddarach. Canfuwyd Tom Davies allan ar y dde gan Ryan David a daeth ei groesiad o hyd i Osian Pritchard 10 llath o’r postyn cefn, ac fe gododd fel eog i benio’r bêl i gefn y rhwyd. Ddaru Cymric ddominyddu’r chwarae a gwelodd Huw Owen ei ergyd o bell yn cael ei harbed yn wych gan y golwr. Cafodd Dynamo Aber gic rydd mewn safle deniadol cyn diwedd yr hanner ond cafodd yr ergyd ei safio’n hawdd gan Rhys Davies. 

Dechreuodd Dynamo Aber yr ail hanner yn dda a gallant fod wedi mynd ar y blaen yn y munud cyntaf. Canfuwyd yr asgellwr ar y chwith gan bêl hir ac achosodd ei groesiad tipyn o ddryswch yn amddiffyn Cymric ond cafodd y bêl ei chlirio. Aeth Cymric ar y blaen 2 funud yn ddiweddarach ar ôl symudiad gwych. Cafodd y bêl i’w chwarae i Celt Iwan ar y dde a daeth o hyd i Rhodri Dafydd yng nghanol cae. Daeth ef o hyd i Ryan David ar y llinell hanner ac aeth i ffwrdd oddi wrth ei wrthwynebwr gyda chyffyrddiad cyntaf gwych. Fe redodd lawr yr asgell dde a chroesi’r bel yn isel i’r cwrt ble roedd Huw Owen yn disgwyl amdani a sgoriodd gyda foli wych ger y postyn agosaf i gornel pella’r gol. Ddaru’r ddau dîm ganslo ei gilydd allan am gyfnod ac fe drodd Dynamo Aber i chwarae’n gorfforol iawn ddaru arwain at 3 cerdyn melyn a gall wedi bod yn waeth. Fodd bynnag, fu bron iddynt unioni’r sgôr ar ôl 73 munud pan gafodd croesiad o’r dde ei tharo ar y foli yn erbyn y postyn a rhedodd y bêl yn saff, i ryddhad Cymric oherwydd bysa ildio gol wedi bod yn ergyd greulon. Cafodd Dynamo Aber gic rydd arall ychydig yn ddiweddarach ond aeth yr ergyd dros y trawst. Fu bron i Cymric fynd ymhellach ar y blaen ar ôl 84 munud ond fe darodd ergyd Osian Pritchard yr amddiffynnwr a mynd dros y trawst. Ddaru Cymric wedyn reoli’r chwarae a’r unig gynnig oedd gan Dynamo Aber oedd ceisio chwarae’r bêl hir ond cafodd y dacteg yma ei ddelio gyda’n dda gan amddiffyn Cymric. Cafwyd buddugoliaeth wych gan Cymric oedd yn dial ar y golled cawsant yn erbyn eu gwrthwynebwyr yn gynharach yn y tymor. 

Sgôr terfynol – Dynamo Aber 1 Clwb Cymric 2 

Chwaraewyr y Gêm – Celt Iwan & Tom Davies


Both teams started the match confidently but failed to create any real chances in the first ten minutes. Cymric’s first chance fell on 10 minutes when Tom Davies found himself free on the right and his cross found Huw Owen but his effort was saved. Dynamo Aber then had their first chance a minute later when they broke down the left but the shot went wide. Dynamo Aber took the lead against the run of play after 20 minutes when, like in the previous fixture 5 weeks ago, they struck a long ball over the top of the Cymric defence. The forward ran at full back Llyr Davies and took a shot from 18yds, but there was no real power in it but it fell to his colleague who side footed in from close range. Cymric weren’t behind for long as they equalised three minutes later. Ryan David found Tom Davies on the right and his cross was met excellently by Osian Pritchard at the far post and he headed the ball home from 10yds. Cymric then dominated the play and Huw Owen had a long range effort well saved by the home keeper. Cymric then gave away a stupid free kick in a good position for Dynamo Aber but the effort was easily saved by Rhys Davies. 

Dynamo Aber started the second half well and could have gone ahead within the first minute. A long ball found the winger in space on the left and his cross caused some confusion in the Cymric defence but the ball was eventually cleared. Cymric took the lead 2 minutes later with a great move and finish. The ball was played out to Celt Iwan at right back and he found Rhodri Dafydd in midfield. He then found Ryan David on the halfway line and his first touch took him away from his marker. He then went on a run down the right and got a great low cross into the box which was met first time by Huw Owen who placed his near post volley past the keeper into the far corner. Both teams then cancelled each other out and Dynamo Aber resorted to some very physical play which led to three yellow cards and could have been worse. However, they nearly equalised on 73 minutes when a cross from the right was met with a first time left foot volley which cannoned off the post and to safety, much to Cymric’s relief as that would have been a cruel blow. They then had a free kick from a good position but the effort went over. Cymric nearly extended their lead on 84mins when Osian Pritchard found himself in on goal but his shot was deflected over. Cymric then controlled the play and Dynamo Aber were reduced to playing the long ball which was well dealt with by the Cymric defence. Cymric came away with a fantastic victory which avenged the defeat they suffered to their opponents earlier in the season. 

Final score – Dynamo Aber 1 Clwb Cymric 2 

MOTM –Celt Iwan & Tom Davies

Earlier Event: 19 November
Cwmaman FC 3-4 Clwb Cymric
Later Event: 3 December
Clwb Cymric 3-2 Cadoxton Barry FC