1. Iwan Jones
2. Celt Iwan
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Wiilliams
6. Aled Hughes
7. Ryan David
8. Rhodri Dafydd
9. Tom Davies
10. Rhodri W Williams
11. Osian Pritchard
12. Caio Iwan
14. Rhys Davies
15. Tom Lewis
Roedd y ddau dîm yn gwybod bod hon yn gêm allweddol os ydynt am gael eu hadnabod fel un o’r ffefrynnau i gael dyrchafiad a dechreuodd y ddau dîm y gêm yn bwyllog. Cafodd Cymric eu cyfle cyntaf ar ôl 8 munud ond aeth ergyd Aled Hughes yn syth i freichiau’r golwr. Cafodd Cadoxton eu cyfle cyntaf ar ôl 17 munud pan reolodd y blaenwr y bel ar ei frest ac yna troi a tharo ergyd wych ond aeth fodfeddi dros y trawst. Aeth Cadoxton ar y blaen yn ddi-ddisgwyl ar ôl 21 munud. Cawsant gic rydd mewn safle da ac arbedodd Iwan Jones yr ergyd wrth wthio’r bêl yn erbyn y trawst, ond Cadoxton ddaru ymateb gyflymaf ac fe beniodd y blaenwr y bel i’r rhwyd o 6 llath. Ddaru Cymric ddechrau dominyddu a rheoli’r chwarae a chawsant sawl cyfle mewn cyfnod o 10 munud. Ergydiodd Rhodri Dafydd dros y trawst ar ôl derbyn y bêl o gic cornel a ddaru Llŷr Davies gael cyfle euraidd ar ôl gwaith gwych gan Rhodri Dafydd ac Osian Pritchard ar y chwith ond fe darodd ei ergyd i ochor y gôl. Ddaru Celt Iwan ddarganfod ei hun mewn safle ymosodol ac fe dynnodd y bel yn ôl i Rhodri Dafydd ond aeth ei ymdrech heibio’r gôl. Yr unig fodd o chwarae oedd gan Cadoxton oedd taro’r bêl yn hir a fu bron i hyn arwain at eu hail ond fe gododd y blaenwr y bêl dros y gôl. Fe wastiodd Cymric gyfle euraidd i unioni’r sgôr pan gawsant gic o’r smotyn ar ôl i Tom Davies gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan y golwr ond arbedwyd cic Osian Pritchard ac fe fethodd wedyn o 6 llath. Ddaru hyn ddim digalonni Cymric ac fe unionwyd y sgôr ar ôl 44 munud pan sgoriodd Alex Davies gic rydd wefreiddiol o 35 llath a aeth i mewn oddi ar y postyn. Cafodd y gôl effaith negyddol ar Cadoxton ac aeth Cymric ar y blaen funud yn ddiweddarach. Enillodd Rhodri Williams y bêl oddi wrth y cefnwr yng nghanol cae a rhoddodd y bêl i Osian Pritchard a sgoriodd yn wych o 17 llath.
Roedd rhaid i Cadoxton fynd i edrych am gôl sydyn ar ddechrau’r ail hanner a chawsant gyfle ar ôl 49 munud phan beniodd y blaenwr y bêl heibio’r postyn ar ôl croesiad da o’r dde. Ddaru Cymric reoli’r chwarae ac achosi ychydig o drafferth i Cadoxton ond nid oeddynt yn gallu darganfod y bêl neu’r ergyd bwysig yn nhruan ola’r cae. Aeth Tom Davies ar rediad gwych ar ôl 75 munud wrth fynd heibio sawl chwaraewr Cadoxton cyn pasio’r bêl i Rhodri Dafydd yn y cwrt cosbi ond cafodd ei ergyd ei harbed yn wych gan y golwr. Taflodd Cadoxton bob dim at Cymric er mwyn sgorio’r gôl bwysig i unioni’r sgôr ond fe ddeliodd Cymric yn dda gyda’r holl bwysau. Fodd bynnag, ddaru’r pwysau dalu ym munud ola’r gêm pan ddaru Cymric fethu a delio gyda chroesiad o’r dde ac fe redodd y bêl i’r postyn pellaf ble’r oedd blaenwr Cadoxton yn disgwyl amdani ac fe sgoriodd. Yn lle torri calonnau Cymric ddaru hyn eu hysbrydoli i fynd i edrych am y gôl i ennill y gêm a dyna yn union ddigwyddodd, yn hollol haeddiannol, 3 munud i mewn i’r amser a ychwanegwyd am anafiadau. Ddaru gwaith da gan Rhodri Dafydd ryddhau Tom Davies ac fe basiodd y bêl i Ryan David ar y dde. Rhedodd gyda’r bêl i mewn i gwrt cosbi Caodxton a tharodd ergyd wych ar draws y golwr i gornel pella’r rhwyd. Canlyniad gwych i Cymric a’u pedwaredd fuddugoliaeth yn olynol sy’n eu rhoi 3 phwynt ar ôl Cardiff Draconians ar frig y tabl gyda’r timau yn chwarae ei gilydd ar Ffordd Llanidloes dydd Sadwrn nesaf mewn gem sy’n siŵr o fod gwerth ei gweld.
Sgôr terfynol - Clwb Cymric 3 Cadoxton Barry 2
Chwaraewr y Gêm – Rhodri Dafydd
Both teams knew that this was a must win game if they were to be looked upon as possible promotion candidates and they started the match cautiously. Cymric had their first chance on goal after 8 minutes but Aled Hughes’ shot was straight at the Cadoxton keeper. Cadoxton’s first effort came after 17 minutes when their forward chested the ball down with his back to goal and turned and shot on the volley and it went just over the bar. Cadoxton unexpectedly took the lead on 21 minutes. They had a free kick in a good area and the effort was well saved by Iwan Jones as he tipped it against the bar, but Cadoxton were first to react and the ball was headed in from 6 yards. Cymric then started to dominate and control the play and had a few chances in the space of 10 minutes. Rhodri Dafydd shot over after receiving the ball from a corner and Llyr Davies found himself in on goal, after great work by Rhodri Dafydd and Osian Pritchard on the left but his effort hit the side netting. Right back Celt Iwan then found himself in an attacking position and he pulled the ball back to Rhodri Dafydd but his effort went wide. Cadoxton were forced to play the long ball and this nearly paid off on 38 minutes when the forward found himself in on goal but he lifted the ball over the bar. Cymric had a great chance to equalise when they were awarded a penalty when Tom Davies was brought down in the area, but Osian Pritchard had his spot kick saved and missed the rebound from 6 yards. This didn’t deter Cymric and they deservedly equalised on 44 minutes with a stunning free kick from Alex Davies as his effort went in off the post from fully 35 yards. This shook Cadoxton and Cymric went ahead a minute later. Rhodri Williams put pressure on the Cadoxton centre half and nicked the ball from him. He then found Osian Pritchard who finished coolly from just inside the area.
Cadoxton had to come out and look for an early goal and they had a chance on 49 minutes when a great cross in was headed wide. Cymric then controlled the play and troubled Cadoxton but couldn’t find that killer pass or shot in the final third. Tom Davies went on a great run on 75 minutes, beating several Cadoxton players and he played in Rhodri Dafydd inside the area but his shot was well saved by the keeper. Cadoxton then threw everything at Cymric to try and get that all important equaliser but Cymric dealt well with their pressure. However, the pressure paid off in the 90th minute when a cross from the right wasn’t dealt with by the Cymric defence and ball rolled to the far post where the Cadoxton forward pounced and drilled home the equaliser. Cymric’s heads didn’t go down and they deservedly took all three points three minutes into injury time. Some great work by Rhodri Dafydd again found Tom Davies and he then found Ryan David making a run in from the right. He took the ball into the box and fired in an unstoppable effort across the face of the keeper into the far corner of the net. A great result and Cymric’s 4th successive win in the league takes them 3 points behind leader Cardiff Draconians with the teams meeting at Llanidloes Road next week in what promises to be a cracking match.
Final score – Clwb Cymric 3 Cadoxton Barry 2
MOTM –Rhodri Dafydd