1. Iwan Jones
2. Rhys Davies
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Aled Hughes
7. Ryan David
8. Dylan Roberts
9. Tom Davies
10. Huw Owen
11. Osian Pritchard
12. Rhodri W Williams
14. Celt Iwan
15. Jonny Jones
Dechreuodd Cymric y gêm yn hyderus trwy edrych yn beryg yn syth o’r gic gyntaf. Ond, fe gymerodd bron I 10 munud i Cymric greu eu cyfle cyntaf pan gafodd ergyd Tom Davies ei harbed yn hawdd gan golwr Cwmaman. Parhaodd Cymric I chwarae pêl-droed taclus ac aethant ar y blaen yn haeddiannol ar ôl 21 munud. Cawsant gic rydd 25 llath o’r gôl a chododd Dylan Roberts y bel dros y wal ac i gornel isa’r gol. Fu bron iddynt ymestyn eu mantais ar ôl 23 munud pan ddaru gyd-chwarae da iawn lawr y dde ryddhau Tom Davies ond ddaru ei groesiad fethu pawb. Munud yn ddiweddarach ddaru Osian Pritchard dynnu’r bel yn ôl I Aled Hughes ond aeth ei ergyd droedfedd heibio’r gol. Cafodd Cwmaman eu cyfle cyntaf ar ôl 32 munud pan gawsant gic rydd ond aeth y bel dros y trawst. Cafodd Cymric gyfle arall ar ôl 35 munud pan beniodd Alex Davies gic cornel Osian Pritchard yn syth I ddwylo’r golwr. Dylai Cwmaman fod wedi unioni’r sgôr ar ôl 36 munud pan aeth eu blaenwr drwodd ar y gôl ond iddo daro’r bel heibio’r postyn. Fodd bynnag, cawsant y gôl roeddynt yn edrych amdani 2 funud yn ddiweddarach gyda’r union run cyfle ond y trio hwn fe gododd y bel dros Iwan Jones I gefn y rhwyd.
Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda a fu bron iddynt fynd ar y blaen dau funud i mewn i’r hanner pan gafodd gic rydd Osian Pritchard, oedd yn hedfan am gornel ucha’r gol, ei harbed yn wych gan y golwr. Fodd bynnag, aethant ar y blaen o’r gic gornel pan beniodd Huw Owen y bel yn wych i gornel pella’r gol o’r postyn agosaf. Ond, unionodd Cwmaman y sgôr eto 10 munud yn ddiweddarach ar ôl iddynt dorri’n sydyn ar ôl cic cornel Cymric ac fe gadwodd y blaenwr ei ben a saethodd rhwng coesau Iwan Jones ac i gefn y rhwyd. Aeth Cymric I edrych am y gôl allweddol nesaf ond ddaru Cwmaman nadu’r lle iddynt a’u cadw yn eu hanner eu hunain. Pan aeth Cymric I hanner Cwmaman cafodd Dylan Roberts gynnig o 35 llath aeth heibio a gwelwyd arbediad gwych o ergyd Aled Hughes. Fu bron i Gwmaman fynd ar y blaen ar ôl 74 munud ond I Iwan Jones arbed yn wych. Fe brofodd yr arbediad yna fod yn un allweddol iawn pan aeth Cymric ar y blaen unwaith et oar ol 83 munud pan gafodd Tom Davies, seren y gêm, ei lorio yn y cwrt cosbi a sgoriodd Dylan Roberts o’r smotyn. Sicrhawyd y tri phwynt ar ôl 89 munud pan ddaru Tom Davies ryddhau Ryan David ar y dde yn y cwrt ac aeth ei ergyd i mewn oddi ar y postyn. Ond, fe dynnodd Cwmaman gol yn ol gyda chic ola’r gem pan ddaru pêl hir ddal allan amddiffyn Cymric ac fe dynnwyd y bel yn ol i’r blaenwr i’w rhoi yn y rhwyd. Cafwyd gem wych gyda Chymric yn llwyr haeddu’r fuddugoliaeth.
Sgôr terfynol – Cwmaman 3 Clwb Cymric 4
Chwaraewr y Gêm – Tom Davies
Cymric started the match confidently and looked dangerous from the kick off. But it took nearly 10 minutes for them to create their first chance when Tom Davies’ shot was easily saved by the Cwmaman keeper. They continued to play some good football and deservedly took the lead after 21 minutes. Cymric were awarded a free-kick 25yds out and Dylan Roberts lifted the ball over the wall and into the bottom corner. They could have extended their lead on 23 minutes when some great play down the right released Tom Davies whose low cross avoided everyone in the box. A minute later Osian Pritchard got to the Cwmaman by-line and pulled the ball back to Aled Hughes but his shot went a foot wide. Cwmaman had their first effort after 32 minutes when they were awarded a free-kick but it went just over the bar. Cymric had another opportunity on 35 minutes when Alex Davies headed Osian Pritchard’s corner straight at the keeper. Cwmaman should have levelled the score after 36 minutes when the forward was put through but he hit his effort wide. However, they did equalise 2 minutes later with an exact same move but this time the ball was lifted over the advancing Iwan Jones and into the net.
Cymric started the second half well and nearly took the lead after 47minutes when Osian Pritchard’s free-kick, which was heading for the top corner, was excellently saved by the keeper. However, they took the lead from the resulting corner when Huw Owen expertly glanced a header at the near post which went in at the far post. Cwmaman equalised again 10 minutes later when they broke from a Cymric corner and the forward kept his cool and shot between Iwan Jones’ legs. Cymric went looking for the next goal but Cwmaman denied them space and time and pegged them back in their own half. When they did get into the opposition’s half Dylan Roberts had an effort from 35yds that went wide and Aled Hughes forced the Cwmaman keeper into a great save. Cwmaman nearly took the lead on 74 minutes but Iwan Jones pulled off a great save. That save proved to be vital as Cymric took the lead again on 83 minutes when man of the match Tom Davies was pulled down in the box and Dylan Roberts converted the penalty. The match was made safe on 89 minutes when some more great work by Tom Davies released Ryan David in the box on the right and his shot went in off the far post. Cwmaman had time to pull one back with the last kick of the match when a long ball caught the Cymric defence off guard and the ball was pulled back to be tapped in from close range. An excellent match and Cymric fully deserved the victory.
Final score – Cwmaman 3 Clwb Cymric 4
MOTM –Tom Davies