Back to All Events

Cefn Cribwr BC 4-1 Clwb Cymric

1. Iwan Jones

2. Celt Iwan

3. Sion Cox

4. Rhodri G Williams

5. Dylan Roberts 

6. Aled Hughes

7. Caio Iwan

8. Rhodri Dafydd

9. Tom Davies

10. Ryan David 

11. Osian Pritchard 

12. Tom Lewis

14 Rhys Davies

15. Huw Owen

16. Rhodri W WIlliams 


Cafodd Cymric ddechrau hunllefus wrth ildio gôl yn y munud cyntaf. Creodd pas hir ar draws y cae ychydig o betruso yn eu hamddiffyn ac fe neidiodd blaenwr Cefn Cribwr ar y camgymeriad i’w rhoi ar y blaen. Aeth o ddrwg i waeth I Gymric 4 munud yn ddiweddarach pan ddaliwyd amddiffyn Cymric yn gwylio’r bel o gic rydd ac fe sgoriodd asgellwr Cefn Cribwr eu hail wrth y postyn pellaf. Dylai Cymric fod wedi tynnu un yn ôl yn syth pan aeth Ryan David drwodd ond cafodd ei ergyd ei harbed. Cafodd Cymric gyfle gwych arall ar ôl 18 munud pan gafodd peniad Dylan Roberts ei harbed yn wych dim ond 3 llath o’r gol. Cafodd Cymric ddau gyfle yn syth ar ôl ei gilydd ar ôl 25 munud. Yn gyntaf, ergydiodd Ryan David o 20 llath ond aeth yr ergyd fodfeddi heibio ac yna torrodd Caio Iwan I mewn o’r dde a tharo ergyd wych gyda’i droed chwith oedd yn crymanu am y gôl ond cafodd ei harbed gan y golwr. Fodd bynnag, aeth Cefn Cribwr ymhellach ar y blaen ar ôl 37 munud pan ddaru bêl hir ddal Celt Iwan yn ei gwylio yn mynd dros ei ben a gadael ei ond cafodd ei ergyd ei harbed yn wych gan Iwan Jones ond adlamodd y bel i’r ymosodwr a sgoriodd yn hawdd. Cafodd Cymric gyfle arall i gael gôl eu hunain ar ôl 40 munud pan gafodd croesiad da o’r dde ei phenio drosodd gan Osian Pritchard o 5 llath. 

Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn yr un modd a’r hanner cyntaf a gwelwyd Cefn Cribwr yn sgorio eu pedwerydd gol o’r prynhawn 2 funud i mewn i’r hanner. Fe dorrodd Cefn Cribwr yn gyflym ar ôl cic gornel gan Cymric ac fe sgoriodd yr ymosodwr yn weddol hawdd. Tynnodd Cymric gol yn ôl ar ôl 57 munud pan ddaru gwaith da gan yr eilydd Huw Owen ryddhau Osian Pritchard yn y cwrt cosbi ac fe gododd y bel yn wych dros y golwr i gornel ucha’r gôl. Ddaru hyn ysbrydoli Cymric a dominyddwyd y meddiant ganddynt am gyfnodau hir wedyn. Daeth Dylan Roberts o hyd i Tom Davies gyda phêl hir wych ond gwelodd ei ergyd yn taro’r postyn. Roedd Cymric yn chwarae yn dda ond yn methu'n glir a dod o hyd i’r bel allweddol yn nhruan ola’r cae. Roeddynt yn anlwcus iawn i beidio sgorio ar ôl 87 munud pan welodd Rhodri Williams ei beniad yn taro gwaelod y trawst a disgyn ar y lein a chael ei chlirio gan yr amddiffyn. Canlyniad siomedig i Cymric ond nid oeddynt yn haeddu dim byd allan o’r gêm. 

Sgôr terfynol – Cefn Cribwr 4 Clwb Cymric 1 

Chwaraewr y Gêm – Aled Hughes


Cymric had a disastrous start and found themselves a goal down in the first minute. A cross-field pass caused hesitation in the Cymric defence and Cefn Cribwr’s forward pounced on the mistake to put them a goal up. It went from bad to worse for Cymric 4 minutes later when the defence was caught ball watching from a free kick and the winger pounced at the far post to double their lead. Cymric should have pulled a goal back immediately when Ryan David was put through but his effort was saved. Cymric had another great chance on 18 minutes when Dylan Roberts had a free header from a Cymric corner 3yds out but the keeper somehow managed to pull off the save. Cymric then had two chances in quick succession on 25mins. Firstly, Ryan David saw an effort from 20yds go wide and then Caio Iwan cut inside from the right and hit a great curling left foot shot which was easily saved by the keeper. However, Cefn Cribwr extended their lead after 37mins when a long ball caught Celt Iwan ball watching and left his marker whose shot was excellently saved by Iwan Jones but the rebound was netted unchallenged. Cymric had another chance to pull one back after 40mins when a great cross from the right was headed over by Osian Pritchard from 5yds. 

Cymric started the second half exactly the same as the first and found themselves four down 2 minutes into the second half. Cefn Cribwr broke from a Cymric corner and found themselves in on goal and the forward made no mistake. Cymric managed to pull one back after 57 minutes when some good work by substitute Huw Owen released Osian Pritchard in the box and he lifted his shot excellently over the keeper into the top corner. This brought Cymric to life and they started to dominate possession. Dylan Roberts’ long ball found Tom Davies in space but his shot clipped the outside of the post. Cymric continued to dominate but just couldn’t find the killer ball in the final third. They were unlucky not to pull another back after 87 minutes when Rhodri Williams’ header from a corner came back off the underside of the crossbar and was cleared. A disappointing defeat for Cymric but they didn’t deserve anything from the game. 

Final score – Cefn Cribwr 4 Clwb Cymric 1 

MOTM –Aled Hughes

Earlier Event: 29 October
Clwb Cymric 1-0 Cogan Coronation AFC
Later Event: 19 November
Cwmaman FC 3-4 Clwb Cymric