Back to All Events

Clwb Cymric 6-1 Cogan Coronation

30171625_10155473344333297_1732211303300823150_o.jpg

Ddaru Cymric ddominyddu’r chwarae o'r dechrau i'r diwedd gan sgorio chwe gôl i sicrhau eu lle yn yr adran gyntaf ar gyfer y tymor nesaf.

Dechreuon nhw yn dda, gan sgorio tair gôl yn yr 20 munud agoriadol. Agorodd Tom Davies y sgorio gyda foli isel i gornel y rhwyd o groesiad Osian Pritchard.

Ychwanegodd Dylan Roberts ail gyda tharan o gic rydd, y norm iddo yn ddiweddar, o 25 llath. Ddaru Neil Thomas adio trydydd wrth iddo roi’r bel yn y rhwyd o lain a llathen ar ôl i ymdrech Huw Owen gael ei harbed a tharo’r postyn.

Ail gol Dylan Roberts ddaru ei neud hi’n bedair pan sgoriodd o’r smotyn ar ôl i Rhodri Williams gael ei wthio yn ei gefn wrth fynd am beniad.

Tynnodd Cogan un yn ôl cyn hanner amser gyda chic rydd wych ddaru hedfan i gornel chwith uchaf gol James Hendy.

Parhaodd Cymric i ddominyddu ar ôl yr egwyl gyda Ryan David yn taro'r bar o bellter agos yn y 5 munud agoriadol. Fe gafodd Ryan ei gol wrth iddo orffen symudiad gwych lawr y dde gydag ergyd daclus iawn.

Ychwanegodd Ynyr James, a oedd wedi bod yn boen cyson yn ochr Cogan gyda'i
rediadau heibio Osh ar y chwith, chweched gol Cymric pan welodd ei hun yn y bocs gyda digonedd o le ac amser a chododd y bel dros y golwr wrth iddo ddod allan i geisio ei atal.


30420370_10155473333433297_9087912148109250050_o.jpg

Cymric dominated from start to finish scoring six goals to secure their place in Division One for next season.

They started well, scoring three goals in the opening 20 minutes. Tom Davies opened the
scoring rifling in a low volley in to far corner form Osian Pritchard’s cross. Dylan Roberts made it two with a trademark thunderous free kick from 25 yards. Neil Thomas made it three after Huw Owen’s effort was parried onto the post and he tapped home from close range. Dylan Roberts made it four from the penalty spot when Rhodri Williams was pushed in the back going up for a header.

Cogan pulled one back just before half time with a fantastic free kick which flew into the top left hand corner of James Hendy’s goal.

But Cymric continued to dominate after the break with Ryan David hitting the bar from close range in the opening 5 minutes. Ryan did eventually get on the scoresheet as he finished off a great move down the right with a neat finish. Ynyr James, who had been a constant thorn in Cogan’s side with his overlapping runs down the left, then made it six when he found himself in the box with plenty of time and space and he coolly finished past the oncoming keeper.

MOTM – Alex Davies

Earlier Event: 1 May
Penrhiwceiber 2-1 Clwb Cymric
Later Event: 12 May
Clwb Cymric 1-1 Butetown AFC