(English to follow... possibly.)
Ar ddiwrnod ysblennydd yn Cwrt yr Ala, roedd Cymric yn awyddus i ennill eu tri pwynt cyntaf o’r tymor newydd. Gyda Stu adre yn polishio ei sgidie yn barod ar gyfer ei ddiwrnod mawr ddydd Sul, JJ a TRD oedd wrth y llyw.
Daeth Sion ‘Paul’ Lewis fewn i ddechrau rhwng y pyst, gyda James, Iwan, Gwyn a Dafydd ddim ar gael. Roedd Charlo hefyd nôl yn y XI cyntaf yn gobeithio ychwanegu i’w record nifer o goliau i Cymric.
Roedd yn amlwg ar ddechrau’r hanner cyntaf bod Cymric am wella ar eu perfformiad ar ôl siom nos Fercher lawr yn Cadoxton. Roedd y pasio yn fwy cywrain, y siâp yn fwy strwythuredig a’r symud oddi ar y bêl i’w weld yn lot gwell.
Llwyddod Llyr Davies, Charlo, Huw ac Osh i ffeindio gofod yn y cwrt cosbi yn yr hanner cyntaf ond yn anffodus doedd y croesiad neu’r bêl ar draws methu canfod crys Kappa gwyrdd. Cafodd Osh hefyd gyfle wrth iddo wau ei ffordd heibio’r amddiffynwyr megis sgiiwr giant slalom. Ar ôl cyrraedd y cwrt cosbi, aeth i saethu efo’i droed dde (wir rwan!) ond llwyddodd yr amddiffynnwr gael nôl i atal yr ergyd.
Ond diolch i Sion yn y gôl llwyddwyd i gadw hi’n ddi-sgôr yn yr hanner cyntaf. Arbedodd yn gyntaf wrth droi'r bêl dros y traws ar ôl i ergyd wyro oddi ar Alex. Yna fe drodd Sion y bêl heibio’r postyn fel oedd y bêl yn anelu am gornel isa’r rhwyd.
Enillwyd y gêm gyda symudiad gorau'r tymor hyd yma gan Cymric. Chwarae taclus o’r cefn yn galluogi’r bêl i gael ei chwarae ymlaen a chanfod Huw tu allan i’r cwrt cosbi. Wrth i Huw droi a throi yn y cwrt cosbi fe ddaeth y gefnogaeth o ganol cae a gosododd Huw y bêl nôl i Tom Lewis oedd ar law i darannu’r bêl i gornel ucha’r rhwyd. Chwip o ergyd, chwip o gôl, chwip o barti i Cymric wrth iddynt ddal 'mlaen i sicrhau’r triphwynt.
Diolch yn fawr iawn i Owi Jones am limanu ddydd Sadwrn. Yn enwedig gan mai Owi wirfoddolodd am y swydd. Diolch! A hefyd diolch i’r dorf swnllyd am greu atmosffer drydanol yn Cwrt yr Ala. Ultras Cymysg Cymric - Ems, Steff, Ffion a Holly yn ei gwneud hi'n anodd iawn i'r ymwelwyr.
Seren y gêm: Dylan Jones (bron yn unig am ei waedd wichlyd ar y dyfarnwr wrth iddo ddal ei wynt ar ôl cael ysgwydd yn ei fol).
1. Sion Lewis
2. Llyr Davies
3. Osian Pritchard (c)
4. Dylan Roberts
5. Dylan Jones +
6. Alex Davies
7. JJ
8. Steve Cope
9. Huw Owen
10. Rhodri Charles
11. Tom Lewis *
-
12. Cai Llwyd
13. Carwyn Rees
14. Steff Davies
15. Ryan David
Arwr: Owi yn mwynhau bwyd Eidalaidd fel gwobr am ei waith caled ddydd Sadwrn.