Back to All Events

Clwb Cymric 1-2 FC Cwmaman

1. Dafydd Edwards

2. Celt Iwan

3. Rhys Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Dylan Roberts

9. Tom Davies

10. Huw Owen 

11. Osian Pritchard 

12. Rhodri W Williams

13. Tom Lewis

14. Jonathan Jones

15. Tom Hughes

16. Tom Pritchard 


Gorffennwyd ymgyrch Clwb Cymric yn siomedig iawn wrth iddynt gael eu trechu a nadu’r pwynt yr oeddynt eu hangen i gael dyrchafiad i’r Uwch Adran. Cawsant ddechrau addawol i’r gêm a dylsant wedi mynd ar y blaen ar ôl 6 munud pan ddaru Ryan David ddarganfod Tom Davies gyda phas lletraws ble gwelodd ei hun i mewn am y gôl yn erbyn y golwr ond gwelwyd arbediad gwych o’i ymdrech. Aeth Cwmaman yn agos 3 munud yn ddiweddarach pan welodd y cefnwr de rhediad gwych gan eu chwaraewr canol cae i mewn i gwrt cosbi Cymric ond cafodd ei beniad ei harbed yn dda gan Dafydd Edwards. Ddaru Cwmaman ddominyddu’r meddiant heb greu cyfle o nod ond cawsant ergyd o bell gaeth ei harbed yn hawdd gan Dafydd Edwards. Ond Cymric aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae pan rhyng-gipiodd Dylan Roberts y bel a darganfod Tom Davies, a daeth yntau o hyd i Huw Owen a sgoriodd yn dda dan gorff y golwr wrth iddo ddod allan. Ond, munudau yn unig yr oeddynt ar y blaen ar ôl i Gwmaman neidio ar gamgymeriad gan Cymric wrth iddynt gymryd tafliad ar y dde i unioni gydag ergyd wych o 20 llath. 

Dechreuodd yr ail hanner yn yr un modd a diwedd yr hanner cyntaf gyda Chwmaman yn chwarae pêl-droed addawol heb ddod o hyd i’r bylchau er mwyn creu cyfleoedd. Ond, aethant ar y blaen ar ôl 65 munud pan ddaru ymdrech Dylan Roberts i gymryd cic gôl hir, gyflym gael ei rhyng-gipio yn hanner Cymric o’r cae. Cafodd y bel wedyn ei phasio dros ben amddiffyn Cymric a sgoriodd y blaenwr wrth godi’r bel dros Dafydd Edwards wrth iddo ddod allan i’w atal. Fu bron iddynt fynd ymhellach ar y blaen munud yn ddiweddarach pan darodd peniad nerthol yr amddiffynnwr y bar o gic cornel. Roedd Cymric yn desbret i ddod o hyd i’r gôl y buasai’n rhoi’r pwynt yr oeddynt ei angen iddynt. Aeth Dylan Roberts yn agos ar ôl 78 munud gyda chic rydd o bellter ond cafodd ei ergyd ei harbed yn dda. Roedd Cwmaman yn sicrhau fod pob chwaraewr yn amddiffyn eu gôl er mwyn arbed eu mantais a rhoddodd Cymric bob dim i geisio dod o hyd i’r gôl allweddol ond fe safodd amddiffyn Cwmaman yn gadarn a daethant allan o’r gêm gyda buddugoliaeth haeddiannol. 

Sgôr terfynol – Clwb Cymric 1 FC Cwmaman 2 

Chwaraewr y Gêm – Rhodri G Williams


Clwb Cymric ended their campaign with a very disappointing defeat which denied them the point they needed to gain promotion to the Premier Division. They started brightly and should have gone ahead after 6 minutes when Ryan David found Tom Davies with a great diagonal pass which saw him in one on one with the goalkeeper but his effort was well saved. Cwmaman went close 3 minutes later when a fantastic run from midfield was picked out by the right full back and the header was well saved by Dafydd Edwards. Cwmaman dominated possession without creating much but they did have a long range effort which was easily saved by Dafydd Edwards. But it was Cymric who took the lead, against the run of play, when Dylan Roberts intercepted a through ball and he found Tom Davies, who then put Huw Owen through on goal and he slotted it past the advancing keeper. Their lead didn’t last long as Cwmaman pounced on some sloppy play from a Cymric throw-in on the right to equalise with an excellent effort from 20 yards. 

The second half started as the first had ended with Cwmaman playing some lovely football but not quite finding the gaps to create the chances. But they went ahead after 65 minutes when Dylan Roberts attempted to get a Cymric attack going with a quick, long goal kick but it was intercepted halfway into the Cymric half. The ball was then played over the top to the forward who coolly finished past the advancing Edwards. They nearly went further ahead a minute later when a header from a corner smashed against the Cymric crossbar. Cymric were now desperate to find the equaliser that would give the point they needed. Dylan Roberts went close after 78 minutes with a long range free kick but his effort was well saved. Cwmaman were now getting every man behind the ball to defend their lead and Cymric put everything into finding the equaliser but the Cwmaman defence was very solid and they ran out worthy winners. 

Final score – Clwb Cymric 1 FC Cwmaman 2 

MOTM – Rhodri G Williams

Earlier Event: 29 April
Cwmbach RS 3-2 Clwb Cymric