Roedd hi'n ganlyniad siomedig mewn gêm danllyd lawr yn Cogan ddydd Sadwrn gyda Cymric unwaith eto yn gorffen y gêm efo 10 dyn.
Roedd yr hanner cyntaf yn addawol ac, am rhan helaeth o’r hanner, yn gyfforddus i chwaraewyr Cymric. Ar y cyfan, yn amddiffynnol roedd y tîm yn gryf, gyda’r siap strwythredig yn atal Cogan rhag creu unrhyw gyfleoedd. Yn ymosodol, roedd cyffro i’r chwarae, gyda Ryan a Tom yn mwynhau lot o le.
Dylai Cymric 'di sicrhau y triphwynt yn yr hanner cyntaf gyda’r nifer o gyfleon a greuwyd. Daeth unig gôl yr hanner o ymosodiad chwim gydag ergyd Ryan yn cael ei arbed ond roedd Tom Bach yno i daro’r bêl i’r rhwyd.
Ond yn yr ail hanner trodd y gêm i mewn i ffars gyda’r dyfarnwr yn methu cadw rheolaeth ar y gêm.
Yn dilyn nifer o ymosodiadau a bygythiadau gan chwaraewyr Cogan oddi ar y bêl, roedd yn sioc i weld y dyfarnwr yn dangos cerdyn coch i Kyle gyda’r dyfarnwr yn mynnu ei fod wedi gweld chwaraewr canol cae Cymric yn sathru ar chwaraewr Cogan oddi ar y bêl. Mae’r ffaith bod hyn wedi dod yn sioc i’r ddau dim yn dweud y cyfan.
Yn dilyn y cerdyn y coch ar ddechrau’r hanner cyntaf roedd Cymric yn ymwybodol o faint yr her oedd o’u blaenau.
Ond yn sgîl y gwaith caled a’r ymroddiad rhoddodd pob un o’r chwarewyr roedd Cymric i weld yn weddol gyfforddus ac ar adegau yn medru gwrth-ymosod yn gyflym ac yn edrych yn fwy tebygol o ymestyn y fantais.
Ond unionodd Cogan y sgôr gyda pheniad cryf o gic-rhydd gyda James yn cael ei guro yn dilyn gwyriad ar y bêl. Ond roedd hi'n edrych fel bod Cymric wedi gwneud digon i sicrhau pwynt ond yn anffodus cipiodd Cogan y triphwynt gyda 5 munud yn weddill.
Er dau arbediad campus gan James, llwyddodd ymosodwr Cogan i gyrraedd y bêl cyn yr amddiffyn a gyda chymysgedd o’r traws, postyn a’r rhwyd i weld i gadw’r bêl allan, rhoddodd y dyfarnwr y gôl.
Gyda 11 dyn ar y cae mae’n sicr buasai Cymric wedi llwyddo i guro’r gêm yn gyfforddus. Os oes modd ail-gynhyrchu’r perfformiad yn yr hanner cyntaf yn Cornelly penwythnos nesa' mae’n sicr bydd triphwynt yn dilyn.
Seren y gêm: Rhodri Dafydd
Sgoriwr: Tom Gwynedd
It was another disappointing outcome for Clwb Cymric on Saturday in a fiercely contested game marred by a couple of hugely controversial decisions.
Cymric had the best of the first half, creating numerous chances. The solitary goal of the first half came from Tom Davies after Ryan David’s initial shot was parried by the keeper. Cymric could have added to their lead on a number of occasions but composure was lacking at times as the Cymric attack failed to capitalise on their dominance.
But the game turned on its head following the referee’s decision to send off Kyle Goodfellow for an alleged off-the-ball incident despite Cymric’s protests. This set the tone for the remainder of the game as the aggressive Cogan team sought to make the most of their one-man advantage.
Due to their numerical advantage Cogan had most of the possession and territory in the second half. The equaliser came from a free-kick from the touchline which was delivered deep into the box and a free header from 12 yards out took a deflection and found the net. As the half progressed Cymric were able to enjoy a number of chances with the pace of the counter-attacks particularly impressive. However, the decisions made at key moments meant Cymric were unable to capitalise.
Cogan hit the winner with 5 minutes remaining. James Hendy pulled off an excellent double save, but the Cogan striker was on hand to score. The ball did appear to strike the bar and post before coming out, but the referee awarded the goal again to the dismay of the Cymric defence.
Cymric felt frustrated once again seeing a strong first half and what should have been a comfortable victory being undermined by the sending off. However, the quality of the football in the first half and the hard work put into the second half will provide some consolation as they look to start picking up points before the Christmas break.
Man of the match: Rhodri Dafydd
Scorer: Tom Gwynedd