1. Iwan Jones
2. Celt Iwan
3. Tom Pritchard
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Aled Hughes
7. Ryan David
8. Rhodri Dafydd
9.Tom Davies
10. Rhodri W WIlliams
11. Osian Pritchard
12. Sion Cox
14 Dylan Roberts
15. Huw Owen
16. Jonathan Jones
Aeth Cymric i mewn i’r gêm ar ôl canlyniad siomedig yn erbyn Cornelly United wythnos yn gynharach ond roedd y gobeithion o gipio tri phwynt yn uchel yn eu hymgais i gael dyrchafiad. Fe chwaraewyd y gêm dan amodau anodd i’r ddau dîm yng Nghwrt yr Ala a gafodd hyn effaith mawr ar y gêm o ganlyniad. Dechreuodd Cymric yn araf ac fe gymrodd Tonyrefail fantais o hyn wrth iddynt fynd ar y blaen ar ôl 15 munud. Methodd Cymric ddelio gyda chic rydd ac fe darodd blaenwr Tonyrefail y bel i gornel ucha’r rhwyd gan roi dim gobaith i Iwan Jones yn y gol. Fe geisiodd Cymric neud defnydd o’r gwynt cryf am weddill yr hanner ond roedd cyfleoedd yn brin iawn gyda dim ond pheniad gan Ryan David, a aeth heibio’r postyn, yn cael ei greu.
Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda ac unionwyd y sgôr ar ôl 50 munud. Derbyniodd Ryan David y bel ar y dde ac fe bigodd allan Tom Davies yn y cwrt a phlannodd ei beniad i gornel isa’r rhwyd. Roedd Cymric yn dipyn gwell tîm dros yr 20 munud nesaf gan chwarae yn lot gwell yn erbyn y gwynt ond er yr holl feddiant nid oeddynt yn gallu dod o hyd i’r gôl allweddol yna. Gyda 10 munud yn weddill dechreuodd Tonyrefail gael mwy o’r meddiant ac edrych yn beryg iawn tan i Cymric gipio’r bel a thorri yn sydyn gyda 2 funud yn weddill. Gwaneth Rhodri Dafydd rediad gwych o ganol cae heibio’r blaenwyr a derbyniodd y bel a gorffen yn daclus dan gorff y golwr ar ôl cyd-chwarae da gan ei gyd chwaraewyr. Roedd Cymric yn edrych fel eu bod wedi sicrhau 3 phwynt gwerthfawr wrth iddynt gadw’r bel yn hanner Tonyrefail o’r cae hyd nes yn ddwfn i mewn i’r amser ag ychwanegwyd am anafiadau pan gafodd Tonyrefail gic rydd ddadleuol iawn yn hanner Cymric am lawio gan Osian Pritchard pan ddaru’r bel ei daro yn glir yng nghanol ei frest. Gwnaethant ddefnydd lawn o hyn pan gafodd croesiad da iawn i mewn i’r cwrt gael ei phenio i gefn y rhwyd gan flaenwr Tonyrefail.
Gem gyfartal siomedig arall i Glwb Cymric mewn gem y dylent unwaith eto wedi ei hennill ond maent nawr 4 pwynt tu ôl i Cardiff Draconians gyda 2 gem mewn llaw.
Sgôr terfynol – Clwb Cymric 2 Tonyrefail 2
Chwaraewr y Gêm – Rhodri Dafydd
Cymric went into this match after a disappointing result at Cornelly United last week but were hoping to take three points in their quest for promotion. The match went ahead in difficult conditions at Cwrt-yr-Ala and, due to this, the game was very scrappy from the start. Cymric started slowly and Tonyrefail took full advantage as they took the lead on 15mins. Cymric failed to clear a free kick and the Tonyrefail striker struck an emphatic finish into the top corner giving Iwan Jones no chance in the Cymric goal. Cymric tried to make use of the wind for most the remainder of the first half but chances were few and far between with only a header from Ryan David, which went wide, was created.
Cymric started the second half the better side and equalised after 50 minutes. Ryan David was fed the ball on the right and his pin point cross picked out Tom Davies who headed powerfully into the bottom corner. Cymric were on top for the next 20 minutes, playing much better against the wind, but despite lots of pressure the Tonyrefail defence stood firm. With 10 minutes remaining the visitors got a hold in the match once again attacking more and they looked dangerous until Cymric broke quickly with 2 minutes remaining. Rhodri Dafydd made an excellent run from midfield beyond the strikers and was fed the ball and he finished neatly under the keeper after some neat passing by the home side. Cymric looked to be holding on for the 3 points as play was mostly in the Tonyrefail half until deep into added time when Tonyrefail were awarded a controversial free kick inside the Cymric half for a hand ball against Osian Pritchard when the ball actually struck him fully in the middle of his chest. They made full use of this and a very good delivery into the box was met by the Tonyrefail striker who headed into the corner of the net.
Another disappointing draw for Clwb Cymric which again should have been a win but it takes them 4 points behind Cardiff Draconians with 2 games in hand.
Final score – Clwb Cymric 2 Tonyrefail 2
MOTM –Rhodri Dafydd