Back to All Events

Ynyshir Albions FC 0-1 Clwb Cymric

1. Dafydd Edwards

2. Celt Iwan

3. Llyr Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Rhys Davies

9.Tom Davies

10. Caio Iwan 

11. Osian Pritchard 

12. Rhodri W Williams

13. Tom Lewis

14 Dylan Roberts

15. Rhodri Dafydd

16. Tom Pritchard 


Aeth Cymric i mewn i’r gêm yn gwybod y bysa buddugoliaeth yn rhoi bwlch o 9 pwynt rhyngddynt ac Ynyshir yn y frwydr am ddyrchafiad. Dechreuodd y ddau dîm yn bwyllog ar gae trwm, anodd a ni welwyd cyfle o werth yn y 25 munud cyntaf. Cymric gafodd y cyfle cyntaf ar ôl 26 munud pan achosodd pêl hir ychydig o ddryswch yn amddiffyn Ynyshir a disgynnodd y bêl i Ryan David ar y dde. Rhedodd i mewn o’r dde a bwydo Caio Iwan mewn lle ond cafodd ei ergyd ei harbed gan y golwr. Cafodd Cymric gyfle arall ar ôl 31 munud pan gawsant gic rydd mewn safle da ond aeth cynnig Alex Davies ymhell heibio’r postyn. Gwelodd cefnwr Ynyshir, oedd braidd yn anffodus, y cerdyn coch ar ôl 33 munud am dynnu Tom Davies lawr troedfeddi tu allan i’r cylch canol fel yr oedd yn carlamu tuag at y gôl a phenderfynodd y dyfarnwr ei fod wedi arbed cyfle am gôl i’r blaenwr. Cafodd Ynyshir eu cyfle cyntaf am gôl ar ol 36 munud pan gawsant gic rydd mewn safle da ond cafodd yr ergyd ei ddelio yn hawdd gan Dafydd Edwards yn y gôl. Aeth Cymric ar y blaen ar ôl 44 munud pan gafodd tafliad o’r dde ei fflicio mlaen a disgynnodd y bel I Osian Pritchard a tharodd y bêl i gefn y rhwyd o 12 llath. 

Fu bron i Cymric fynd ymhellach ar y blaen ar ôl 47 munud pan, ar ôl gwaith da lawr y chwith, cafodd Llŷr Davies gyfle ond cafodd ei ergyd ei harbed yn wych gan y golwr. Ddaru Ynyshir ddim gadael i’r ffaith eu bod un dyn yn fyr eu heffeithio wrth iddynt ddominyddu meddiant a thiriogaeth am ran helaeth o’r ail hanner ond nid oeddynt yn gallu creu cyfle o werth a gwelodd Dafydd Edwards ei amddiffyn yn ei warchod yn arwrol. Cafodd Ynyshir gynnig o bell ar ôl 56 munud aeth y bêl ymhell dros y trawst, a chic rydd mewn safle da ar ôl 63 munud aeth fodfeddi dros y trawst. Cyfyngwyd Cymric i ddal Ynyshir ar y brêc ac fe wnaethant hyn ambell waith ond nid oeddynt yn gallu dod o hyd i’r pass neu ergyd pan oedd ei angen fwyaf. 

Sgôr terfynol – Ynyshir Albions 0 Clwb Cymric 1 

Chwaraewr y Gêm – Tom Davies


Cymric went into this match knowing a win would take them 9 points clear of Ynyshir in the battle for promotion. Both teams started cautiously and failed to create any real clear cut or half chances as they cancelled each other out on a heavy pitch. It was Cymric who had the first chance after 26 minutes when a long ball caused confusion in the Ynyshir defence and the ball fell to Ryan David on the right. He cut in and fed Caio Iwan in space in the box but his shot was saved by the keeper. Cymric had another chance on 31 minutes when they were awarded a free kick in a good position but Alex Davies’ kick went well wide. Ynyshir were reduced to 10 men on 33 minutes when their centre half was unlucky to be shown a straight red from the referee for a tackle just outside the centre circle which stopped a scoring opportunity for Tom Davies. Ynyshir’s first effort on goal came after 36 minutes when they had a free kick in a good position but it was easily dealt with by Dafydd Edwards in the Cymric goal. Cymric took the lead on 44 minutes when a throe in from the right was flicked on and it fell to Osian Pritchard 12 yards out and he smashed the ball past the keeper. 

Cymric nearly extended their lead on 47 minutes after some great work down the left saw Llyr Davies in on goal but his shot from an angel was well saved by the keeper. Ynyshir certainly didn’t let the fact they were down to 10 men affect them as they dominated possession and territory for the majority of the second half but for all their possession they couldn’t find a shot on target as Dafydd Edwards saw his defence protect him valiantly. Ynyshir had a long range effort on 56 minutes which went well over and a free kick in a good position on 63 minutes went inches over the bar. Cymric were restricted to catching Ynyshir on the break and they did so a few times but couldn’t find the killer ball when it was required most. 

An excellent win for Clwb Cymric which takes them further away from the chasing pack and 3 points behind Cardiff Draconians with 3 games in hand. 

Final score – Ynyshir Albions 0 Clwb Cymric 1 

MOTM –Tom Davies

Earlier Event: 21 January
Clwb Cymric 4-2 Cwmbach Royal Stars
Later Event: 18 February
Clwb Cymric 2-1 Aber Valley