1. Iwan Jones
2. Celt Iwan
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Rhys Davies
7. Ryan David
8. Tom Lewis
9. Rhodri W Williams
10. Caio Iwan
11. Osian Pritchard
12. Tom Pritchard
14 Dylan Roberts
15. Jonathan Jones
Oherwydd egwyl y Nadolig, nid oedd Cymric wedi chwarae ers dros fis ac fe ddangosodd hynny gan iddynt ddechrau’r gêm yn araf yn erbyn Porthcawl, sy’n brwydro i gael allan o’r tri isaf. Ni ddaru neb greu unrhyw gyfle o nod tan y 18fed munud pan ddaru Llŷr Davies, cefnwr chwith Cymric, ddod o hyd i le yn y cwrt cosbi a gafodd ei groesiad ei tharo am gôl gan Ryan David ond cafodd ei ergyd ei chlirio oddi ar y llinell. Cafodd Porthcawl eu cyfle cyntaf ar ôl 26 munud pan gawsant gic rydd mewn safle peryg ond cafodd y gic ei gwyro dros y trawst am gic cornel. Aeth Cymric yn agos eto ar ôl hanner awr pan gafodd ymdrech Ryan David, o gic cornel Osian Pritchard, ei phenio oddi ar y llinell a gwrthododd y bêl ddisgyn yn iawn i Caio Iwan a chliriwyd y bêl gan Porthcawl. Fodd bynnag, aeth Cymric ar y blaen ar ôl 32 munud pan gafodd Rhodri Williams ei lorio yn y cwrt a fynta yn barod i danio am gôl ac fe sgoriodd Rhys Davies y gic o’r smotyn. Aeth Cymric ymhellach ar y blaen ar ôl 36 munud pan ddaru Rhys Davies ddod o hyd i Caio Iwan mewn lle tu allan i’r cwrt cosbi. Fe drodd yntau a mynd heibio’r golwr a phasio’r bê i gefn y rhwyd. Fu bron i Borthcawl sgorio ychydig cyn yr hanner ond cafodd yr ymdrech ei safio’n wych gan Iwan Jones.
Fe ddechreuodd Porthcawl yr ail hanner yn dda gan fygwth gôl Cymric, ond ni chawsant gyfle clir. Serch hynny, Cymric gafodd gyfle cyntaf yr hanner pan beniodd Ryan David groesiad Osian Pritchard dros y trawst. Aeth Cymric ymhellach ar y blaen ar ôl 53 munud pan ddaru Ryan David ddod o hyd i Caio Iwan yn y cwrt a sgoriodd gydag ergyd wych i gornel isaf y gôl. Fu bron i Gymric gael un arall gyda symudiad gorau’r gêm ar ôl 56 munud. Ar ôl cyd-chwarae gwych rhwng Osian Pritchard a Rhodri Williams, derbyniodd Tom Lewis y bêl yn y cwrt ond gafodd ei ergyd ei blocio ac fe gliriwyd ei ergyd nesaf oddi ar y llinell. Ni chymerodd y naill dim na’r llall afael ar y gêm am gyfnod wedyn tan i Borthcawl sgorio ar ôl 86 munud, a gwthio wedyn i gael un arall hyd at y chwiban olaf.
Buddugoliaeth dda iawn i Gymric ar gae anodd sydd yn mynd a nhw 3 phwynt yn agosach at Cardiff Draconians ar frig y tabl.
Sgôr terfynol - Clwb Cymric 3 Porthcawl Town 1
Chwaraewr y Gêm – Rhys Davies
Cymric went into this match without having played a match in 4 weeks due to the Christmas break and it showed as they started very slowly against a Porthcawl side which is fighting to get out of the bottom three. Neither team created any real clear cut chances until the 18th minute when left back Llyr Davies found himself in space in the box and his cross was met by Ryan David at the far post but his shot was blocked on the line. Porthcawl’s first chance came on 26 mins when Cymric gave away a free kick in a dangerous area but the kick was deflected over the bar for a corner. Cymric went close again on the half hour mark when an Osian Pritchard corner was met by Ryan David but his effort was headed off the line and the rebound wouldn’t fall kindly for Caio Iwan and the ball was eventually cleared. However, Cymric went ahead on 32 mins when Rhodri Williams was brought down in the box as he was bearing down on goal and Rhys Davies converted the penalty. Cymric extended their lead on 36 minutes when Rhys Davies found Caio Iwan in space on the edge of the box and he went round the keeper and slotted the ball into the empty net. Porthcawl nearly pulled one back on 42 minutes but the effort was very well saved by Iwan Jones.
Porthcawl came out fighting in the second half and threatened to pull one back immediately. However, it was Cymric who had the first clear cut chance of the second half when Osian Pritchard’s cross was headed over by Ryan David. Cymric extended their lead on 53 minutes when Ryan David found Caio Iwan in the box and he produced an excellent finish into the bottom corner. Cymric nearly made it four with the best move of the match on 56 minutes. Some great interplay between Osian Pritchard and Rhodri Williams found Tom Lewis in space but his shot was blocked and the rebound was cleared off the line. Neither team then took a hold of the match until a dogged Porthcawl side pulled one back on 86 minutes.
A very good win for Clwb Cymric on a difficult pitch and that takes them 3 points closer to Cardiff Draconians at the top of the league.
Final score – Clwb Cymric 3 Porthcawl Town 1
MOTM –Rhys Davies