Back to All Events

Merthyr Saints 2-3 Clwb Cymric

1.  Rhys Davies 

2. Tom Hughes 

3. Llyr Davies 

4. Alex Davies 

5. Rhodri G Williams

6. Dylan Roberts 

7. Tom Lewis 

8. Rhys Richards 

9. Ryan David 

10. Tom Pritchard

11. Osian Pritchard

12. Celt Iwan 

14. Rhodri W Williams 

15. Sion Cox 

16. Owain Taylor


Merthyr oedd y ffefrynnau yn y gêm hon gan roeddynt yn ail yn y gynghrair uwchben. Roedd hi wedi bod yn glawio’n drwm dros nos ac yn ystod y bore ond roedd y cae mewn cyflwr da iawn at gyfer y gêm. Fe ddechreuodd y ddau dîm yn dda wrth geisio chwarae’r bel ar lawr ond roedd amddiffyn y ddau dim yn gryf yn ystod y cyfnod agoriadol. Cafodd Merthyr eu cyfle cyntaf ar ôl 10 munud pan gafodd pêl hir ar draws y cae ei benio’n gryf tuag at y gôl ond i Rhys Davies arbed yn wych yn isel i’w chwith. Roedd Merthyr yn gweld lot o’r bel a chawsant gyfle arall ar ôl 20 munud gydag ergyd o du allan i’r cwrt cosbi ond I Rhys Davies arbed unwaith eto. Fe ddaliodd amddiffyn Cymric ei siâp yn dda iawn a chyfyngwyd Merthyr I gynigion o bell ond ni alwyd ar Rhys Davies yn y gol. Cafodd Cymric eu hergyd gyntaf am gol ar ôl 32 munud ond gwelwyd ymdrech Tom Lewis yn hedfan dros y trawst. Sgoriodd Merthyr ar ôl 38 munud gydag ergyd ar draws y gôl ddaru osgoi ymdrech Llyr Davies I’w blocio a Rhys Davies wrth iddo wylio’r bel yn mynd i gornel y rhwyd. Merthyr aeth i mewn i’r egwyl ar y blaen mewn hanner ddaru nhw ddominyddu o ran meddiant.

Fe ddechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda iawn a gafodd Ryan David gyfle ar ôl 48 munud wrth iddo dderbyn pas a rhedeg tuag at y golwr ond ni tharodd y targed. Roedd Cymric yn dominyddu’r meddiant ond nid oeddynt yn gallu gweithio golwr Merthyr. Cyfyngwyd Merthyr I chwarae’r bel hir ond nid oedd hyn yn ddigon i brofi amddiffyn cadarn Cymric. Ddaru Tom Hughes ddod hyd I Dylan Roberts gyda thafliad ac fe chwaraeodd bel gwych lawr yr asgell dde i’r eilydd  Rhodri Williams. Chwaraeodd o’r bel yn syth yn sgwâr i lwybr Tom Lewis a ddaru grymanu ei ergyd heibio’r golwr o 20 llath. Roedd Cymric efo’i chynffonau i fyny rŵan a dylent wedi mynd ar y blaen ar ol 73 munud ar ol chwarae da gan Rhodri Williams ac Osian Pritchard arwain at gyfle I Pritchard ond cafodd ei ergyd ei blocio o 6 llath. Fodd bynnag, aeth Cymric ar y blaen ar ol 77 munud. Cawsant gic cornel ar y chwith ac wrth i’r bel ddod i mewn i’r cwrt fe drodd Rhodri Williams y bel tuag at y postyn pellaf ble roedd Dylan Roberts yn disgwyl amdani a sgoriodd yn hawdd. Roedd Cymric yn gallu gweld buddugoliaeth wych ar y cardiau ond nid oedd Merthyr wedi gorffen eto. Unionwyd y sgôr ar ol 81 munud pan gawsant gol reit debyg i’r un gyntaf wrth i’r bel ddarganfod  y rhwyd ar ol ergyd ar draws y gol. Ddaru hyn ddim atal Cymric gan eu bod yn gwybod yn iawn eu bod wedi chwarae digon da yn yr ail hanner i ennill y gêm a dyna a fu wrth iddynt sgorio’r gôl allweddol ar ol 86 munud. Ddaru Tom Pritchard ffendio ei hun mewn dipyn o le ar y dde a rheolodd Rhodri Williams ei groesiad tua 8 llath allan o flaen y gol. Rhuthrodd y gôl geidwad allan i’w atal ond wrth iddo neud fe basiodd y bel i’w chwith I Osian Pritchard a sgoriodd ei ganfed gol i’r clwb gydag ergyd dda, isel.

Canlyniad ffantastig I Glwb Cymric yn erbyn tîm da iawn ac maent yn mynd drwadd yn haeddiannol i drydedd rownd Tlws Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

Sgôr Terfynol - Merthyr Saints 2 Clwb Cymric 3

Chwaraewr y Gêm - Rhodri Williams


Merthyr went into the game as favourites as they were 2nd in the league above. It had been raining heavily overnight and throughout the morning but the playing surface was very good. Both teams started well and tried to play the ball on the ground but both defences were strong in the opening period. Merthyr had their first chance on 10 mins when a long cross field ball was headed goalwards only for Rhys Davies to pull off a great save in the Cymric goal. Merthyr were seeing more of the ball and had their second chance on 20 mins when Rhys Davies once again saved, this time a shot from just outside the box. The Cymric defence held its shape well and restricted Merthyr to long range efforts which were all off target. Cymric had their first shot on goal on 32 mins but Tom Lewis’ effort went over the bar. Merthyr took the lead on 38 mins with a cross shot which eluded both Llyr Davies, who tried to block, and Rhys Davies who watched it go into the bottom corner. Merthyr went in a goal up at the break in a half that they dominated possession wise.

Cymric came out and started the second half very well. Ryan David found himself in on goal on 48 mins but he failed to test the keeper with his effort. Cymric dominated possession but were unable to test the Merthyr keeper. Merthyr were restricted to playing the long ball which were dealt with by the Cymric defence. Cymric deservedly levelled the scores on 70mins with a fantastic goal. Tom Hughes found Dylan Roberts from a throw in and he played an excellent ball down the right touchline to substitute Rhodri Williams. He played a first time ball square to the oncoming Tom Lewis who found the net with a first time curling shot from 20yds. Cymric now had their tails up and should have gone ahead on 73mins when some great interplay between Osian Pritchard and Rhodri Williams led to Pritchard being in on goal but his effort was blocked from 6yds out. However, Cymric took the lead on 77mins. They forced a corner on the left and as it came in Rhodri Williams delightfully flicked it on and Dylan Roberts met it at the far post for a tap in. Cymric felt a giant killing was on the cards but Merthyr weren’t done yet. They equalised on 81mins when another cross shot somehow found its way into the far corner. A somewhat identical goal to their first. This didn’t deter Cymric who knew they’d done enough to win the match based on their second half display and they got what proved to be the winner on 86mins. Tom Pritchard found some space on the right and his low cross was controlled by Rhodri Williams 8yds out in front of goal. As the keeper came out to block he coolly passed the ball left to Osian Pritchard who scored his 100th goal for the club with a smart side foot finish.

A fantastic result for Clwb Cymric against an in-form Merthyr side and they deservedly progress into the 3rd round of the FAW Trophy.

Final score – Merthyr Saints 2 Clwb Cymric 3

MOTM – Rhodri Williams

Earlier Event: 31 August
Clwb Cymric 3-0 AFC Whitchurch
Later Event: 10 September
Clwb Cymric 0-0 Ynyshir Albions FC