1. Rhys Davies
2. Celt Iwan
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Tom Davies
7. Tom Lewis
8. Jonny Jones
9. Dylan Evans
10. Ryan David
11. Osian Pritchard
12. Rhys Richards
13. Tom Hughes
14. Dylan Roberts
15. Sion Cox
16. Tom Pritchard
Dechreuodd Trefforest yn dda a bron iddynt fynd ar y blaen ar ôl 3 munud. Rhoddodd Alex Davies y bel i ffwrdd ar ochor y cwrt cosbi a tharodd Trefforest y trawst gyda’u hymdrech o 25 llath. Aethant yn agos eto munud yn gynharach pan gafodd croesiad o’r dde ei phenio tuag at y gôl ond iddi gael ei safio gan Rhys Davies. Dechreuodd Cymric gael gafael ar y gêm ar ôl y dechrau araf a chawsant eu cyfle cyntaf ar ôl 10 munud wedi gwaith da gan Tom Davies ond arbedwyd ei ergyd yn weddol hawdd. Fodd bynnag, aeth Cymric ar y blaen ar ol 16 munud gyda symudiad gwych. Chwaraewyd y bel yn drefnus trwy ganol cae ac wedyn allan at Ryan David ar y dde. Ceisiodd groesi’r bel ond fe aeth yn syth dros ben y gôl geidwad i gefn y rhwyd. Ychydig o lwc ond gold da wedi’r cyfan. Bu bron i Drefforest unioni’r sgôr ar ol 25 munud pan gafodd peniad o gic cornel ei chlirio oddi ar y llinell gan Llŷr Davies. Roedd y ddau dîm yn creu cyfleoedd a fu bron i Gymric fynd ymhellach ar y blaen ar ol 34 munud. Tarodd Rhodri Williams bas gwych ar draws y cae I Osian Pritchard, ac ar o lei rheoli’n dda, gwelodd ei ergyd yn mynd modfeddi heibio’r postyn. Disgynnodd gyfle olaf yr hanner I Dylan Evans pan beniodd gic cornel yn syth at y gôl geidwad.
Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda wrth roi tipyn o bwysau ar amddiffyn Trefforest. Yn sgil hyn, rhedodd y bel i Tom Davies ond gwelodd ei ergyd yn taro’r postyn. Roedd Cymric yn dominyddu’r meddiant ond yn methu yn glir a chael yr ail gol pwysig tan ddeng munud olaf y gêm. Fe dorrodd Cymric yn sydyn ar ôl atal ymosodiad Trefforest ac fe ryddhawyd Osian Pritchard lawr y chwith. Aeth heibio’i ddyn a chyrraedd ochor y cwrt 6 a phasiodd y bel I Ryan David ond iddo fethu gôl agored o 6 llath! Nid oedd Cymric am fethu sgorio eu hail ac fe dalodd yr holl bwysau ar ôl 83 munud. Derbyniodd Tom Davies y bel yng nghanol cae a gwelodd rediad gwych Osian Pritchard. Pasiodd y bel yn gelfydd i’w lwybr ac aeth Osian rownd y gôl geidwad a phasio’r bel i gefn y rhwyd o 12 llath. Sicrhaodd Cymric y 3 phwynt ar ôl 87 munud pan, achosodd Tom Davies hafoc i amddiffyn Trefforest a phasiodd y bel i Rhys Richards a gododd y bel yn wych dros y gôl geidwad wrth iddo ddod allan i’w atal.
Sgôr Terfynol - Clwb Cymric 3 Trefforest 0
Chwaraewr y Gêm - Llŷr Davies & Tom Davies
Treforest started the better and nearly took the lead after 3mins. Alex Davies gave the ball away on the edge of his own box and Treforest clipped the top of the bar from 25yds. They went close again a minute later when a good cross from the right was met at the far post but the header was tipped over the bar. Cymric started to get a hold on the game after that and had their first chance on 10mins when good work by Tom Davies saw him have an effort which went straight at the keeper. Cymric took the lead on 16mins with a great team effort. The ball was played neatly through midfield and then out to Ryan David on the right and his cross come shot went straight in over the keeper. Treforest nearly levelled on 25mins when they had a free header from a corner but it was cleared off the line by Llyr Davies. Both teams were creating chances and Cymric had another on 34mins. Rhodri Williams drove a superb cross field pass to Osian Pritchard whose shot went inches wide. The final chance of the 1st half fell to Dylan Evans, who met a corner but his header went straight at the keeper.
Cymric started the 2nd half the better team and some good pressure on the Treforest defence saw the ball get to Tom Davies, who ghosted past the defender but his shot came back off the post. Cymric dominated possession but couldn’t quite break down the Treforest defence until the last 10 minutes of the match. Cymric broke quickly after a Treforest attack and released Osian Pritchard down the left. He beat his marker and got to the edge of the 6yd box when he squared the ball to Ryan David but he missed an open goal from 6yds. Cymric weren’t going to be denied a second goal and their pressure paid off on 83mins. Tom Davies picked the ball up in midfield and saw Osian Pritchard’s run through and he found him with an excellent pass. Pritchard then took the ball round the keeper and coolly stroked the ball into the empty net from 12yds. Cymric made sure of the 3 points on 87mins when great work by Tom Davies saw him cause havoc in the Treforest back line and he played the ball to sub Rhys Richards who coolly chipped the keeper as he came out to close him down.
Final score – Clwb Cymric 3 Treforest 0
MOTM – Llyr Davies & Tom Davies